Diweddariad i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Tachwedd 2019

 

 

Eiddo pobl Cymru yw ein hamgueddfeydd cenedlaethol, a diolch i Lywodraeth Cymru, mae mynediad am ddim i bob un ohonynt. Ein hamgueddfeydd yw cartref casgliadau cenedlaethol celf, hanes cymdeithasol a diwydiannol a gwyddorau amgylcheddol Cymru. Ein nod yw cael gwared ar rwystrau er mwyn i ragor o bobl gael rhannu a defnyddio ein horielau a'n rhaglenni, a chael eu hysbrydoli ganddynt.

 

Rydym wedi datblygu model unigryw Gymreig ar gyfer democratiaeth ddiwylliannol. Trwy brojectau fel gweddnewid Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – enillydd Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019 – ac arddangosfa hynod lwyddiannus Kizuna yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2018, rydym wedi dangos fod amgueddfeydd Cymru o bwys ar lwyfan ryngwladol ac yn gwneud cyfraniad allweddol at wireddu uchelgeisiau rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

 

Blaenoriaethau Cyfredol

 

Yn ystod hydref 2020, byddwn yn cyhoeddi Strategaeth Ddeng Mlynedd newydd sbon. Ei diben fydd pennu – o fewn fframwaith ein Gweledigaeth, Ysbrydoli Pobl, Newid Bywydau – sut y bydd Amgueddfa Cymru yn helpu i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Byddwn yn adeiladu ar lwyddiant ein Gweledigaeth a gafodd ei gwireddu trwy fodel Sain Ffagan, a bydd yn rhan allweddol o'r Cynllun Strategol.

 

Mae rhai blaenoriaethau cychwynnol wedi dod i'r amlwg:

 

·         Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer holl amgueddfeydd cenedlaethol ein gwlad. Mae gan ymwelwyr ddisgwyliadau uchel yn sgil dyfarnu gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 i Sain Ffagan. Dylai cyfleusterau cyhoeddus pob un o'n hamgueddfeydd cenedlaethol fod o'r radd flaenaf, a dylent gynnwys canolfan ddysgu, orielau cyflyredig a gofodau cyhoeddus a masnachol.

·         Ehangu’r cyfleoedd ar gyfer cyfrannu’n ddiwylliannol ac ymholi beirniadol, gan ddefnyddio’r casgliadau celf, gwyddorau natur, hanes cymdeithasol a diwydiannol ac archaeoleg cenedlaethol mewn orielau, arddangosfeydd a digwyddiadau newydd arloesol.

·         Ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol yw ein hwythfed safle cyhoeddus. Trwy ddigideiddio manylach a chynnig gweithgareddau cyfranogol digidol, gellid creu adnodd diwylliannol a chreadigol wasgaredig ar gyfer Cymru, ac am Gymru, sy’n hygyrch ym mhob cwr o’r byd.

·         Addysg – ffurfiol ac anffurfiol – yw un o’n dibenion sylfaenol. Fel arweinwyr addysgu diwylliannol yng Nghymru, rydym am ehangu ein gwasanaethau. Byddwn yn parhau i arwain a datblygu ein rhaglenni ymchwil a gwerthuso ar arferion amgueddfa effeithiol.

·         Arwain y ffordd yn sector amgueddfeydd y DU wrth gyrraedd cynulleidfa gymdeithasol amrywiol – dyma un o’n cryfderau pennaf. Er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd byddwn yn parhau i addasu ein dulliau gwaith i ehangu'r cysylltiad â'n hymwelwyr a'u cymunedau ac ymsefydlu hawliau pobl i gyfranogiad diwylliannol.

·         Gallwn wneud mwy i gefnogi a darparu ymyriadau er iechyd a lles pobl o bob oed. Mae ein rhaglenni yn y maes yn hynod lwyddiannus, ac mae cyfle i ehangu'r gwaith hwn a'i effaith.

·         Yn ddiweddar, ymunodd Amgueddfa Cymru â nifer o sefydliadau diwylliannol eraill sydd wedi datgan Argyfwng Hinsawdd gan gydnabod yr hyn sy'n digwydd i'n byd ac ymrwymo i weithio gyda'n cymunedau i ganfod datrysiadau.

 

Yn y dyfodol agos, mae ein huchelgeisiau yn cynnwys:

 

·         Cyflawni, a chyfrannu at lunio, uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Celf Gyfoes yng Nghymru

·         Cychwyn Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, gan ei ddatblygu'n ail bencadlys ar gyfer Amgueddfa Cymru

·         Sicrhau fod mwy o'n casgliadau cenedlaethol yn cael eu harddangos mewn gwahanol leoliadau drwy Gymru, yn ogystal â darparu arddangosfeydd teithiol yng Nghymru ac ar draws y byd

·         Sicrhau statws Buddsoddwyr mewn Pobl ar gyfer Amgueddfa Cymru gyfan, yn hytrach nag amgueddfeydd unigol. Rydym yn gweithio gyda'n staff ac Undebau Llafur ar hyn, ac yn dod â'n holl staff ynghyd ar gyfer digwyddiad datblygu yn ddiweddarach y mis hwn.

 

 

Uchafbwyntiau 2018-19

 

Y Nifer Fwyaf o Ymwelwyr yn ein 112 o Flynyddoedd


Yn 2018-19, croesawyd 1,887,376 o ymwelwyr i'n saith amgueddfa genedlaethol. Dyma'r nifer fwyaf o ymwelwyr ers sefydlu'r Amgueddfa ym 1907, ac mae'n 147% o gynnydd ers 2001, pan gyflwynwyd mynediad am ddim gan Lywodraeth Cymru. Mae gennym 146,000 o ddilynwyr ar Facebook, Twitter ac YouTube hefyd, ac ymwelodd 1.8 miliwn o bobl â bron i 5.9 miliwn o dudalennau ar ein gwefan. Mae Ffigurau Ymwelwyr 2019-20 yn edrych yn dda eleni eto, gyda 65% o gynnydd yn Sain Ffagan ym mis Gorffennaf 2019, o gymharu â mis Gorffennaf 2018.

 

Cwblhau Ailddatblygiad Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru


Ym mis Hydref 2018, cwblhawyd project ailddatblygu £30 miliwn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Yn sail i'r gweddnewid, cynhaliwyd rhaglen gyhoeddus llawn dychymyg gyda 720,000 o bobl, gan roi ein nod o greu hanes gyda phobl Cymru, yn hytrach nag ar eu cyfer, ar waith. Parhaodd yr Amgueddfa ar agor drwy gydol y project ailddatblygu chwe blynedd, gan groesawu 3 miliwn o ymwelwyr.


Ers i ni gwblhau'r project, mae Sain Ffagan wedi ennill llu o wobrau gan gynnwys Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019, sy'n cynnwys gwobr ariannol o £100,000. Gwireddwyd y project diolch i gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â rhoddion gan ymddiriedolaethau, sefydliadau ac unigolion.

 

Dysgu am Oes


Ni yw prif ddarparwr addysg tu allan i'r ystafell ddosbarth Cymru o hyd, ac yn 2018/19 cymerodd 208,388 o ddisgyblion a myfyrwyr a 489,185 o ddysgwyr anffurfiol ran yn ein rhaglenni. Rydym yn cefnogi Ysgolion Arloesi ar brojectau mwy hirdymor ac yn gweithio ar raglenni preswyl ysgol ar gyfer disgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd. Mae gennym raglen addysg ddigidol lewyrchus hefyd sy'n cyrraedd 192,000 o ddefnyddwyr bob blwyddyn.

Cynhaliwyd gweithdai ar gyfer 400 o athrawon dan hyfforddiant ar draws Cymru gyda thri o'r darparwyr hyfforddiant i athrawon. Rydym hefyd yn cefnogi cystadleuaeth flynyddol Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.

Mae ein gwaith gyda'r Rhwydwaith Diwylliant Oed-Gyfeillgar a phartneriaid fel Cyngor Celfyddydau Cymru a Heneiddio'n Dda yng Nghymru yn cefnogi datblygu gwaith oedran- a dementia-gyfeillgar yn ein hamgueddfeydd. Ymhlith yr enghreifftiau mae ein partneriaeth â Chyngor Tref Blaenafon, ble cynhaliwyd gwaith sy'n pontio’r cenedlaethau a theithiau dementia-gyfeillgar dan ddaear yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.

Rydym yn bartner arweiniol yn Uchelgais Diwylliannol, menter a gydlynir gan Sgiliau Creadigol a Diwylliannol mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro a darparwyr treftadaeth Cymreig eraill. Mae'r fenter yn rhan o raglen Cyfuno ac yn cynnig lleoliadau hyfforddi â thâl ac achrediad NVQ i 33 o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys lleoliadau gwaith a chyrsiau achrededig mewn datblygu crefft a dysgu Cymraeg.

Cynhyrchu Incwm a Chodi Arian

 

Ein cyfraniad blynyddol at economi Cymru yn 2018/19 oedd £83 miliwn o werth ychwanegol gros. Cynhyrchwyd £8.1 miliwn o incwm eleni, sydd yn ychwaneg at grantiau Llywodraeth Cymru.


Trosiant ein cwmni masnachol oedd £4.0 miliwn a gwnaed elw net o £0.9 miliwn – y mwyaf erioed. Trwy godi arian ar draws y corff, codwyd £1.0 filiwn ar gyfer ailddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a rhaglenni cyhoeddus allweddol, gan gynnwys cynnydd ym muddsoddiad chwaraewyr y People's Postcode Lottery. Derbyniwyd rhoddion gwaith celf sydd werth £0.6 miliwn. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol hefyd wedi ein cefnogi ag ystod o wahanol brojectau.

Ymchwil

 

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi arwain gwaith ymchwil a gwerthuso ar gyfer rhaglen flaengar, Cyfuno: Creu Cyfleoedd Drwy Ddiwylliant, sy'n newid effaith tlodi trwy gynyddu cyfranogiad diwylliannol mewn cymunedau trwy Gymru ben baladr.

Cafwyd llwyddiannau nodedig wrth ddenu nawdd ymchwil. Yn benodol, rydym yn bartneriaid mewn project £4.85 miliwn a noddir gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol. Diben y project yw pennu ffyrdd o reoli Xylella a ddisgrifir gan y Comisiwn Ewropeaidd fel un o'r mathau mwyaf peryglus o facteria planhigion yn y byd.

Mewn partneriaeth â Ffoaduriaid yng Nghymru, cafwyd nawdd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a Dyniaethau ar gyfer project tair blynedd yn gweithio gyda ffoaduriaid rhyfeloedd cartref Tamil a Syria sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.


Mae gwaith ymchwil yn parhau i fireinio ein dealltwriaeth o darddiad cerrig gleision Côr y Cewri. Mae tystiolaeth yn dangos y daeth y cerrig hyn o ddau leoliad ym Mynyddoedd y Preseli yng ngorllewin Cymru. Mae dadansoddiad geogemegol cyfoes wedi arwain at gloddiadau archaeolegol yn yr ardal sydd yn eu tro wedi datgelu tystiolaeth o chwarela carreg yn y cyfnod Neolithig, dros 5,000 o flynyddoedd yn ôl.


Cefnogi Sgiliau a Gwirfoddoli

 

Ym mis Ebrill 2018, derbyniodd Amgueddfa Cymru wobr Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr. Dros y flwyddyn, gwirfoddolodd 1,135 o bobl gyda ni, gan gyfrannu dros 28,500 o oriau.

Cafwyd 35% o gynnydd yn nifer y gwirfoddolwyr o gymharu â'r flwyddyn flaenorol a 50% o gynnydd yn nifer y bobl wnaeth ymgeisio. Roedd 37% o'r rheini gafodd eu recriwtio dan 25 mlwydd oed – rydym yn gyson yn recriwtio cyfran uwch o bobl dan 25 nag unrhyw grŵp oedran arall.

Yn rhan o'n gwaith gyda Phartneriaeth Strategol Cymru Hanesyddol, rydym wedi cyd-gynhyrchu Adroddiad Sgiliau, i'w lansio ym mis Mawrth 2020. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn natblygiad ein staff. Mewn partneriaeth â staff ac undebau llafur, datblygwyd polisïau allweddol ym maes lles yn y gwaith gan gynnwys polisi menopos er mwyn codi ymwybyddiaeth pob aelod o staff a chefnogi menywod sy'n mynd drwy'r menopos.

Datblygu'r Casgliadau Cenedlaethol

Mae ffyrdd pobl o ymgysylltu â gwrthrychau sy'n cael eu harddangos yn esblygu. Gweithiwyd gyda Jam Creative Studios i ddatblygu ARchwiliwr Amgueddfa, profiad realiti estynedig ymdrochol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyfarnodd 93.5% o ddefnyddwyr sgôr o 4-5 seren i'r profiad, gydag 80% yn teimlo fod y profiad yn rhoi gwerth da am arian.

Ni yw cartref casgliadau celf gyfoes a hanesyddol Cymru. Ymhlith y caffaeliadau diweddar mae
Blancedi Argyfwng Cymreiggan Daniel Trivedy a enillodd Fedal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

Rydym yn credu fod angen cynrychioli hanes pobl dduon yn well yn y casgliadau cenedlaethol. Rydym bellach yn casglu gwrthrychau, delweddau a hanesion llafar mewn partneriaeth â chymunedau duon ar draws Cymru. Gweithiwyd hefyd gyda phobl o gymunedau duon i ail-ddehongli gwrthrychau sydd eisoes yn y casgliadau ac ym mis Ebrill, penodwyd ein Curadur Hanes Pobl Dduon cyntaf. Rydym yn gweithio gyda Race Council Cymru i gefnogi project cenhedlaeth Windrush Cymru.

 

Cynorthwyodd ein curaduron â'r gwaith o adnabod a dyddio grŵp o ddarnau cerbyd rhyfel Oes yr Haearn a ddaeth i'r fei yn Sir Benfro yn 2018. Dyma'r cerbyd rhyfel cyntaf i'w ganfod yng Nghymru, ac yn wir, yn ne Prydain. Mae pobl ifanc o Goleg Sir Benfro wedi bod yn dogfennu'r broses gyfan a chynorthwyodd ein gwirfoddolwyr gyda'r gwaith cloddio. Gweithiwyd mewn partneriaeth â Cadw, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Choleg Sir Benfro gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gloddio'r gwrthrychau.




Yr Iaith Gymraeg


Rydym yn annog ac yn cefnogi defnyddio a dathlu'r Gymraeg. Ym mis Ebrill 2018, cynhaliwyd Ar Lafar, ein gŵyl i ddysgwyr Cymraeg a drefnir mewn partneriaeth â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lechi Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Datblygwyd sesiynau mewn partneriaeth â Menter Iaith a Mudiad Meithrin a denwyd 670 o ddysgwyr.

Rydym wedi datblygu sesiynau Cymraeg ar gyfer pobl sydd â dementia, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Heneiddio'n Dda yng Nghymru ac a dreialwyd yng nghartref gofal Tŷ Gofal yng Nghaerdydd.

Comisiynwyd cwmni theatr Mewn Cymeriad i gynhyrchu drama yn seiliedig ar ddiwydiant gwlân Cymru yn Amgueddfa Wlân Cymru. Cyfrannwyd adnoddau addysgol dwyieithog at Hwb hefyd, sef y platfform adnoddau digidol sydd â 300,000 o ddefnyddwyr ac a ddefnyddir gan 85% o ysgolion Cymru. Mae ein gwaith gyda realiti rhithwir ac estynedig yn cynnig cyfleoedd rhithwir ardderchog yn Gymraeg.